Jamie Lake

Artist aml-gyfrwng sy’n byw yn Llangynidr

Tynnodd Jamie luniau â chymorth goleuadau LED o’r holltau a oedd i’w gweld yn adeiladau Llwyn Celyn, a’r canlyniad yw cyfres o brintiau ffotograffig. Mae gwaith Jamie’n cofnodi cyflwr y safle cyn i’r gwaith adferol ddechrau.

 

Ar ôl treulio diwrnod agored yn crwydro’r safle a chlywed lle roedd e wedi bod, i ble y byddai’n mynd, argymhellais i Landmark fy mod yn archwilio’r holltau sy’n torri trwy’r adeiladau. I mi, yr holltau hyn oedd arwyddion perfeddol y newid: yr arwyddion hynny, arteithiol weithiau,  anweledig yn aml, o ddiddymiad. Gall cadwraeth ac adferiad roi’r argraff fel prosiect eu bod yn gwrthbwyso hyn, gan lenwi’r agennau ac ad-uno’r hyn sydd wedi dadfeilio. Fy nymuniad oedd dod â’r holltau i ffocws, gwneud cofnod ohonynt cyn iddynt gael eu selio drachefn, gan synfyfyrio ynghylch cyfnewidioldeb Llwyn Celyn.  Dymunwn greu a phrofi saib am ennyd: synhwyro breuder rhywbeth a ymddangosai’n ddwys ac yn bresennol, cyn iddo symud ymlaen.

Wrth wireddu’r syniad yma, penderfynais oleuo’r holltau gan dynnu olion anghofiedig y diddymiad hwnnw a’r hyn a oedd yn gudd yn y cefndir i’r tu blaen.

Ni chrëir celfyddyd byth ar wahân, ac wrth i’r syniadau dyfu dechreuais i weithio ochr yn ochr â’m cyd-artist y ffotograffydd William Carter, yn gosod goleuadau rhwng y cerrig chwilfriw. Bu’r bardd Fiona Hamilton gyda ni am sawl diwrnod. Roedd gan bob un o’r tri ohonom gysylltiadau cryf ond gwahanol â Chymru, ac roeddem oll yn awyddus i wrando ac arsylwi’n ofalus, gyda pharch ac yn sensitif. O’r syniad gwreiddiol fe dyfodd nid yn unig delweddau o’r llinellau goleuni, ond lluniau eraill o’r golygfeydd fframiedig. Y cerddi a ddaeth wedyn, ac yn eu sgil y syniad o gynnal digwyddiad yn Llwyn Celyn. Mae cerddi Fiona’n cydymblethu’n dyner trwy’r cytser sydd wedi datblygu o’r prosiect estynedig erbyn hyn, hanesion dychmygedig a real y lle hwn, a’r emosiynau personol a chyfunol a ysgogir ganddynt. Bydd yr holltau’n diflannu a’r digwyddiad yn pylu o’r cof, ond dymunem eu gweld mewn print, er mwyn cadw moment fer arall yn hanes Llwyn Celyn, a hyn a arweiniodd at y darluniau ychwanegol sydd yn y llyfr.

Jamie Lake April, 2016